Atyniadau
Parc Coedwig Gwydir
Gweithgaredd, Atyniadau
Tirwedd o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd, mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod y parc coedwig yma, sydd wedi ei leoli yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri.
Rhaeadr Ewynnol
Atyniadau
Mae'r rhaeadr ysblennydd hwn ar Afon Llugwy wedi dod yn enwog ac yn adnabyddus dros y 100 mlynedd diwethaf, ac wedi ymddangos ar ffilm, cerdyn post a chynfas.
Sygun Copper Mine
Atyniadau
Dyma brofiad tanddaearol trawiadol. Cafodd y gwaith ei adael yn segur ym 1903 ond bellach mae ar agor i ymwelwyr. Mae Sygun yn adrodd hanes chwarelwyr o Oes Fictoria.
Traeth Trefor
Atyniadau
Ceir golygfeydd arbennig o Benrhyn Llŷn oddi wrth y pentref bychan, gwahanol hwn. Datblygodd Trefor diolch i’w chwarel gwenithfaen lleol. Daeth yr harbwr bychan yn fan hynod o brysur wrth allforio gwenithfaen ar hyd ac ar draws Ewrop.
Trefor, Gwynedd, LL54 5LB