Traeth Trefor
Trefor, Gwynedd, LL54 5LB
Ceir golygfeydd arbennig o Benrhyn Llŷn oddi wrth y pentref bychan, gwahanol hwn. Datblygodd Trefor diolch i’w chwarel gwenithfaen lleol. Daeth yr harbwr bychan yn fan hynod o brysur wrth allforio gwenithfaen ar hyd ac ar draws Ewrop. Mae’r traeth eu hun yn gymysgfa o dywod a cherrig man, a chaiff ei gysgodi yn bennaf, ond derbynnir wyntoedd o ogledd-orllewin. Mae pier Trefor - a adeiladwyd yng nghanol blynyddoedd prysuraf oes y gwenithfaen, ac sydd nawr yn fan poblogaidd gyda physgotwyr - yn ymestyn i’r môr am oddeutu 650ft/200m. Y dyddiau hyn, mae’r harbwr mewnol yn cael ei lenwi gan gychod pleser. Gerllaw, yng Nghlynnog Fawr, ceir Eglwys hynafol Sant Beuno, un o brif dirnod Llŷn, ar lwybr y pererinion i Ynys Enlli.
Rhybudd Diogelwch Traeth Trefor
Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir.
Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Trefor.
- Byddwch yn wyliadwrus o fadau pŵer a chychod pysgota
- Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn symud ar y traeth
- Ymylon di-rwystr - cymerwch ofal
- Gwrthrychau tanddŵr
- Gofal - tonnau mawr yn torri
- Perygl suddo - byddwch yn wyliadwrus o ardaloedd mwd a thywod meddal
- Peidiwch a defnyddio offer enwchythedig mewn gwynt cymhedrol
- Perygl - dim neidio oddi ar y morglawdd
- Cadwch blant dan oruchwyliaeth
Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
Mwynderau
- Parcio
- Mynedfa i’r Anabl
- Yn agos i gludiant cyhoeddus