Atyniadau
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Barmouth Boat Trips
Atyniadau
Yn gweithredu o Gei Abermaw, mae Barmouth Boat Trips yn cynnig teithiau pleser gweld dolffiniaid a siarteri pysgota ar gwch y Warrior, sy'n gallu dal 11 teithiwr.
Beacon Climbing Centre
Gweithgaredd, Atyniadau
Beth bynnag fo'r tywydd, dewch i ddringo! Mae Canolfan Dringo Beacon yn lleoliad cyffrous ym mhob tywydd, gyda gweithgareddau hwyliog yn addas i'r teulu cyfan.
Go Below Underground Adventures
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae Go Below yn fusnes teuluol sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cynnig anturiaethau tanddaearol go iawn, beth bynnag fo'r tywydd.
Bodnant Welsh Food
Atyniadau
Dyma’r lle i fynd i siopa a bwyta yn Nyffryn Conwy. Mae Bwyd Cymru Bodnant yn arddangos y cynnyrch artisan gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, o lysiau a chawsiau organig i gig oen mynydd a danteithion o bob math.
Bodnant Garden
Atyniadau
Wedi'i greu dros 150 o flynyddoedd, gyda phlanhigion yn cael eu casglu a'u dwyn i Brydain o bob rhan o'r byd, a'r weledigaeth anhygoel o genedlaethau o deuluoedd McLaren a Puddle, mae'r lleiniau hynafol a hardd yma, gyda chefndir syfrdanol my