Atyniadau
Canolfan Grefft Corris
Atyniadau
Wedi'u gosod yn erbyn cefndir o fryniau coediog trwchus mae 9 stiwdio grefft annibynnol lle gellir darganfod crefftwaith o safon a'r straeon unigryw y tu ôl i bob crefft.
Clwb Hwylio De Sir Gaernarfon
Darparwr Gweithgareddau
Lleolir Clwb Hwylio De Sir Gaernarfon ar Ben Benar with ochr traeth Porth Fawr,Abersoch.
Clwb Golff Abersoch
Gweithgaredd
Mae enw da iawn i gwrs golff Abersoch am yr her y mae'n ei ddarparu, y golygfeydd a welir oddi yno, a'r croeso yn y clwb. Wedi'i gysgodi gan Ben Llŷn, yn wynebu Bae Ceredigion a gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir, mae'n lleoliad gwych.
Corris Mine Explorers
Gweithgaredd, Atyniadau
Enillwyr Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2022 ac wedi cyrraedd rownd derfynol Gweithgaredd y Flwyddyn 2022 Go North Wales. Dilynwch ôl troed cloddwyr llechi Oes Fictoria gydag un o'r tywyswyr arbenigol.
Labrinth y Brenin Arthur
Atyniadau
Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll.