Atyniadau
Abaty Cymer
Atyniadau
Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.
Aberconwy House
Atyniadau
Tŷ masnachwr o'r 14eg ganrif, Tŷ Aberconwy yw'r unig dŷ masnachol canoloesol yng Nghonwy i oroesi bron i chwe canrif o hanes cythryblus y dref.
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Barmouth Boat Trips
Atyniadau
Yn gweithredu o Gei Abermaw, mae Barmouth Boat Trips yn cynnig teithiau pleser gweld dolffiniaid a siarteri pysgota ar gwch y Warrior, sy'n gallu dal 11 teithiwr.
Cadeirlan Bangor
Atyniadau
Mae Eglwys Gadeiriol Saint Deiniol, ym Mangor, yn sefyll ar safle sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer addoliad Cristnogol ers y 6ed Ganrif.
Caer Rufeinig Segontium
Atyniadau
Olion caer atodol Rufeinig wedi ei sefydlu mae'n debyg ar ddiwedd y 70au OC a'i diwygio hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif.