Atyniadau
Amgueddfa’r Rheilffyrdd Bach Cul
Atyniadau
Darganfyddwch fyd y lein fach, o’r locomotif stêm diwydiannol i swyn rheilffyrdd gwledig Iwerddon. Dysgwch am y Parchedig Awdry a’i straeon rheilffordd i blant.
Clwb Golff Abersoch
Gweithgaredd
Mae enw da iawn i gwrs golff Abersoch am yr her y mae'n ei ddarparu, y golygfeydd a welir oddi yno, a'r croeso yn y clwb. Wedi'i gysgodi gan Ben Llŷn, yn wynebu Bae Ceredigion a gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir, mae'n lleoliad gwych.
Gwaith Llechi Inigo Jones
Atyniadau
Sefydlwyd Gweithdy Llechi Inigo Jones yn 1861 yn bennaf i greu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion.
Rheilffordd Llyn Padarn
Atyniadau
Mae’r lein fach hyfryd hon yn rhedeg wrth ymyl Llyn Padarn ym Mharc Gwledig Padarn, am siwrne yna-ac-yn ôl o oddeutu pum milltir. Beth am gael picnic wrth y llyn yng Nghei Llydan, neu ymweld â’r Amgueddfa Lechi yng Ngilfach Ddu?