Gwaith Llechi Inigo Jones
Sefydlwyd Gweithdy Llechi Inigo Jones yn 1861 yn bennaf i greu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Heddiw, mae’r cwmni yn defnyddio'r un deunydd crai, sef llechen Cymraeg 500 miliwn o flynyddoedd oed i greu cynnyrch pensaernïol, coffadwriaethol, crefftau i’r tŷ ac yr ardd.
Mae’r cwmni, yn dilyn gofyn mawr, yn cynnig teithiau hunan-arweiniol gyda chwaraewr sain mewn sawl iaith gwahannol, yn eich tywys o gwmpas y gweithdy ac arddangosiadau. Bydd cyfle i chi drio caligraffeg ac ysgythru darn o lechen i’w gadw. Hefyd ar gael i blant, mae cwis newydd gyda gwobr llechen iw ennill!
Mae’r ystafell arddangos yn cyflwyno ein cynnyrch o lechen sydd wedi eu creu yn y gweithdy, yn ogystal ag anrhegion Cymreig a Cheltaidd. Mae platiau enwau a phlaciau hefyd yn cael eu creu yn ôl y galw.
Caffi a Siop Fferm gyda maes parcio mawr ar y safle.
Gwobrau
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Llwybr beicio gerllaw
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw