Atyniadau
Clwb Golff Fairbourne
Gweithgaredd
Mae'r cwrs golff 1000 llath par 3 yma yn un gwych ar gyfer dechreuwyr, ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir llogi clybiau a pheli. Ar ôl cwblhau eich rownd, ymlaciwch ac edmygwch cadwyn mynyddoedd Cader Idris a'r bryniau uwchben Abermaw.
Galeri Caernarfon
Atyniadau
Mae Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yn cynnig rhaglen amrywiol o theatr, cerddoriaeth, comedi, celf, dawns, sgyrsiau a gweithdai amrywiol.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.