Atyniadau
Rheilffordd Dyffryn Conwy
Atyniadau
Yn rhan o'r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol, mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn mynd a'r teithiwr trwy 27 milltir o'r golygfeydd mwyaf godidog yn Eryri, o Landudno i Flaenau Ffestiniog.
Sightseeing Cruises
Atyniadau
Mwynhewch daith ar y Queen Victoria a'r Princess Christine, cychod i deithwyr a weithredir gan Sightseeing Cruises, ffordd gwahanol o edrych ar dref hanesyddol canoloesol Conwy, a'i Chastell enwog, ynghyd â golygfeydd o Eryri a'r ardal gyfagos.
Traeth Abererch
Atyniadau
Mae traeth hyfryd Abererch, sydd yn le gwych ar gyfer teuluoedd, yn ymestyn yr holl ffordd i Bwllheli.
Abererch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6PJ
Trefriw Woollen Mills
Atyniadau
Wedi'i sefydlu ym 1859 mae Trefriw Woollen Mills yn cynhyrchu gorchuddion gwely traddodiadol o Gymru, rygiau teithio a brethyn cartref. Mae eu peiriannau dros 50 oed ac maen nhw'n cynhyrchu eu trydan eu hunain.