Atyniadau
Zip World Velocity
Gweithgaredd, Atyniadau
Paratowch ar gyfer profiad gwirioneddol unigryw a gwefreiddiol: y zip cyflymaf yn y byd ers 2013! Esgynnwch dros Chwarel y Penrhyn, lle gallwch deithio ar gyflymder o hyd at a thros 100 mya wrth fwynhau golygfeydd na ellir eu curo o Eryri.
Zip World Titan
Gweithgaredd, Atyniadau
Y profiad zipio grŵp eithaf, Titan yw'r parth zip ar eistedd mwyaf yn Ewrop ar hyn o bryd. Cewch golygfeydd syfrdanol dros Flaenau Ffestiniog ac i lawr y dyffryn am Borthmadog.
Zip World Caverns
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae Zip World Caverns yn antur tanddaearol hynod o gyffrous ac atmosfferig sydd wedi bod yn anhygyrch am bron i 200 mlynedd. Cymerwch daith drwy'r cromenni dan y ddaear ar linellau zip, pontydd rhaff, trwy ferrata a thwneli.
Zip World - Golff Tanddearol
Gweithgaredd, Atyniadau
Dyma golff antur danddaearol cyntaf y byd mewn ogof ! Cwrs 18 twll, sydd 500 troedfedd o dan y ddaear mewn ceudwll segur, lle mae mynediad ond ar gael ar reilffordd cebl mwyaf serth Ewrop.
Zip World Big Red
Atyniadau
Mae Big Red yn cynnwys dwy linell ochr yn ochr 30 troedfedd o uchder, sy'n ei gwneud yn wefr berffaith i ffrindiau a theulu rasio'i gilydd hyd y diwedd.
Anturiaethau eraill yn Zip World Llechwedd.