Atyniadau
No-Mad Adventures
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Mae no-mad adventures yn cynnig profiadau awyr agored cymwysedig wedi eu hyswirio, anturiaethau, sgiliau, llywio a rhedeg. Maent yn ddarparwyr National Navigation Award Scheme (NNAS) a Mountain Training Association.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
Plas Mawr
Atyniadau
Yn sefyll fel sumbol o oes aur cyfnod y Frenhines Elisabeth, mae Plas Mawr yn un o'r tai trefol mwyaf gwych o'i fath ym Mhrydain.