Atyniadau
Go Below Underground Adventures
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae Go Below yn fusnes teuluol sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cynnig anturiaethau tanddaearol go iawn, beth bynnag fo'r tywydd.
Corris Mine Explorers
Gweithgaredd, Atyniadau
Enillwyr Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2022 ac wedi cyrraedd rownd derfynol Gweithgaredd y Flwyddyn 2022 Go North Wales. Dilynwch ôl troed cloddwyr llechi Oes Fictoria gydag un o'r tywyswyr arbenigol.
Labrinth y Brenin Arthur
Atyniadau
Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll.
Taith Dan y Ddaear Zip World Deep Mine Tour
Atyniadau
Cymerwch gam yn ôl i'r 19eg ganrif wrth i chi suddo 500 troedfedd i hanes cyfoethog Taith y Mwynglawdd Dwfn, lle byddwch yn treulio tua 1 awr a 15 munud yn socian i fyny popeth sydd i'w wybod am orffennol diddorol Llechwedd.
Zip World Llechwedd
Gweithgaredd, Atyniadau
Anturiaethau yn Zip World Llechwedd.
Zip World Bounce Below
Gweithgaredd, Atyniadau
Dyma syniad anhygoel! Ogof anferth sydd ddwywaith maint Cadeirlan St. Paul, gyda thrampolinau a rhwydi anferth wedi’u clymu ar ei draws. A dyna ni - profiad tanddaearol unigryw peniwaered! Mae yma wifren zip tanddaearol hefyd.