Ffordd yr Arfordir - Trefi a Phentrefi

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km.  Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Mae'r deithlen tri diwrnod hon yn mynd â chi drwy rai o gymunedau arfordirol mwyaf trawiadol Cymru. Gallwch ddod o hyd i fannau trawiadol gyda'u blasau lleol unigryw eu hunain, o leoliadau bwyd a gweithdai artistiaid i fannau cysegredig gyda gwreiddiau crefyddol dwfn.

Diwrnod 1

Bydd eich siwrne'n cychwyn yn Aberdaron ym Mhenrhyn Llŷn, pendraw'r byd sy'n arw a rhamantaidd.  Er mai hwn yw man cychwyn eich siwrne chi, yn draddodiadol, dyma'r arhosfan olaf i bererinion sy'n mynd draw i Ynys Enlli (Bardsey Island), yr 'Ynys o 20,000 o saint' sanctaidd a saif rai milltiroedd oddi ar y tir mawr (galwch draw i ganolfan ymwelwyr Porth y Swnt, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am ragor o wybodaeth).

Harlech Castle
Castell Harlech


Nesaf, ewch i lawr yr arfordir i Harlech a'i chastell grymus sydd hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd. Dringwch y tyrau uchel - sy'n codi'n dalsyth o glogwyni creigiog sy'n edrych dros dwyni tonnog - am olygfeydd dramatig o'r môr a chopâu Eryri. Cariwch ymlaen i'r de ar hyd yr arfordir i Aberdyfi (croeswch afon Mawddach ar y dollbont rhestredig Gradd II i Lynpenmaen am ddewis cyflym, golygfaol amgen i yrru drwy Ddolgellau). Dyma ganolfan glan y môr fach dlws a chanolfan hwylio gyda thraeth tywodlyd bendigedig - y man perffaith i wylio'r haul yn machlud dros Fae Ceredigion. 

Awgrymir aros dros nos yn: Aberdyfi

Diwrnod 2

Dechreuwch eich diwrnod yn Aberystwyth. Cerddwch yn hamddenol ar hyd y promenâd o'r harbwr, heibio i'r castell a'r pier Fictoraidd cyn teithio ar y rheilffordd i fyny clogwyn serth Craig-las (Constitution Hill) i weld golygfa drawiadol o Fae Ceredigion, yna galwch heibio Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth i weld casgliad eang o dros 60,000 o wrthrychau. Eich stop nesaf yw Aberaeron, lle mae bythynnod lliwgar yn amgylchynu harbwr bach prydferth, sy'n gyfoeth o fwyd a diod bendigedig (popeth o fwyd môr ffres o Fae Ceredigion i hufen iâ blasus wedi'i wneud â mêl lleol). Os ydych am losgi rhywfaint o galorïau, mae hefyd yn lle gwych i grwydro ar Lwybr Arfordir Cymru. Gorffennwch eich diwrnod yn nhref hanesyddol Aberteifi, lle mae castell a chanrifoedd o dreftadaeth yn cydblethu ag atmosffer bywiog, crefftus o orielau, siopau annibynnol a bwytai trawiadol.

Suggested overnight: Aberteifi

Diwrnod 3

Eich stop cyntaf am y dydd fydd Trefdraeth, pentref bychan cysglyd sydd wedi cael enw da fel un o gyrchfannau gwyliau mwyaf deniadol Cymru. Dewch i wybod pam, wrth i chi gymryd golwg ar waith gan artistiaid lleol yn oriel Cydweithfa Trefdraeth, crwydrwch siopau creiriau sy'n llawn eitemau unigryw a chymerwch seibiant mewn siopau coffi a chaffis cŵl.

Artists and craftspeople exhibit at Newport Collective
Artistiaid a chrefftwyr yn arddangos yng Nghydweithfa Trefdraeth


Bydd digon at ddant y rhai sy'n ymddiddori mewn bwyd i'w fwynhau yn Abergwaun hefyd, rai milltiroedd i lawr y lôn. Mae bara newydd ei grasu, caws artisan lleol a chwrw wedi'i fragu'n lleol yn Sir Benfro, oll ar y fwydlen - delfrydol am bicnic ar lan y dŵr wrth i chi wylio cychod yn siglo yn yr harbwr. Gorffennwch eich taith yn Nhŷ Ddewi, dinas leiaf y DU a phen y daith i bererinion drwy'r canrifoedd. Tra bo'r gadeirlan 12eg ganrif yn parhau i fod yn atynfa bwerus, mae dewis chwaethus y ddinas fechan o orielau, siopau a chaffis hefyd yn denu ymwelwyr yma. Cofiwch ymweld ag Oriel y Parc sy'n arddangos casgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae'r arddangosfeydd yn adlewyrchu tirwedd Sir Benfro ac yn dangos sut mae wedi dylanwadu ar artistiaid byd-enwog megis Graham Sutherland.

Awgrymir aros dros nos yn: Tŷ Ddewi