Siopau
Becws Islyn
Becws Caffi Cynnyrch Lleol
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Blas Lôn Las | Ffarm Moelyci
Becws Masnach Deg Cynnyrch Lleol Delicatessen Organig Siop Fferm
Blas Lôn Las yw lle mae'r gymuned yn cwrdd â bwydydd lleol. Dyma eich siop gymunedol leol sy'n cyflenwi ystod eang o lysiau, planhigion a blodau a dyfir yn lleol, bara, wyau, llaeth a chymaint mwy.
Chocablock Corris
Becws Crefftau/Anrhegion Nwyddau Lleol
Mae Chocablock yn fusnes teuluol bach cyfeillgar yng Nghanolfan Grefftau Corris. Dewch i brofi eu siocled a chyffaith unigryw a wnaed â llaw. Maent yn cynhyrchu amrywiaeth hyfryd o siocledi di-laeth, fegan a di-glwten.
Y Deli Cymraeg
Masnachwyr Gwin Cynnyrch Lleol
Porwch y silffoedd sy’n orlawn o gynnyrch blasus a wneir gan y tyfwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr ymroddedig ac angerddol o Gymru.
Gwinllan | Perllan Pant Du
Gwinllanoedd a Bragdai Cynnyrch Lleol Nwyddau Lleol Masnachwyr Gwin
Mae Gwinllan a Pherllan Pant Du wedi ei lleoli ar lethrau Dyffryn Nantlle, Eryri. Mae'r busnes teuluol yn cynnwys Tŷ Bwyta a Siop fechan ar y safle. Mae cynnyrch Pant Du yn cynnwys Gwin, Seidr, Sudd Afal, Dŵr Ffynnon, a Mêl.
Siop Gymunedol Pen y Groes
Siop Gyfleus Cynnyrch Lleol Siop Bapur Newydd Masnachwyr Gwin
Siop gyfleus yn gwerthu nwyddau angenrheidiol sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ydi Siop Pen y Groes yn Llithfaen. Gellir archebu papur, cylchgronau a llefrith, yn ogystal â bara Glanrhyd, yn ddyddiol.