Llefydd i fwyta
Caffi’r Tyddyn
Symud o'r Arweinlyfr
Adio i'r Arweinlyfr
Caffi wedi'i leoli o fewn Canolfan Arddio Tyddyn Sachau, yn cynnig bwydlen fforddiadwy, iachus yn seiliedig ar fwyd cartref a chynnyrch ffres, lleol. Ceir golygfeydd godidog o Eryri, Moel Hebog a'r morlin mor bell â Phorthmadog a'r Bermo.
Caffi Blas Y Waun
Symud o'r Arweinlyfr
Adio i'r Arweinlyfr
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Snowdonia Parc
Symud o'r Arweinlyfr
Adio i'r Arweinlyfr
Mae hon yn dafarn boblogaidd i deuluoedd, cerddwyr a dringwyr, gyda bwyd cartref da, cwrw go iawn, a'i ficro-fragdy ei hun.