Llefydd i fwyta
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Chippy Dre - Sglod a Cod
Siop bysgod a sglodion yn Nhremadog.
11-13 Church Street, Tremadog, Gwynedd, LL49 9RA
Golden Fleece
O'r bar ogof unigryw (y seler cwrw yn wreiddiol) rydym yn cynnig amrywiaeth o gwrw go iawn, chwerw, gwinoedd a gwirodydd. Rydym hefyd yn stocio rhestr gynhwysfawr o jin yn ogystal â chwisgi.
Pen Y Gwryd Hotel
Tafarn / gwesty mynydda hanesyddol yn agos iawn i'r Wyddfa mewn ardal hardd. Ceir nifer o ystafelloedd gyda phaneli coed clyd â llawer o gofebion mynydda yn ogystal â sawl llofnod enwog yn cwmpasu'r nenfwd. Gwerthir cwrw ‘Mŵs Piws’.
Y Sgwâr
Wedi'i leoli yn sgwâr marchnad hyfryd Tremadog, gyda golygfa o'r cefndir mynyddig hardd, mae Y Sgwâr wedi datblygu enw da am fwyd rhagorol, gwasanaeth cyfeillgar, sylwgar a chroesawgar ac awyrgylch bwyta perffaith.
The Union Inn
Mae The Union Inn yn dafarn pentref cyfeillgar sy’n dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif. Fe'i lleolir ym mhentref hardd a hanesyddol Tremadog, porth i Barc Cenedlaethol Eryri a Phenrhyn Llyn.