Llefydd i fwyta
Bryn Noddfa
Mae'r bwyty ym Mryn Noddfa yn gweini bwyd cartref lleol, gyda'r fwydlen yn cael ei chadw'n fwriadol fyr ac yn cael ei ddiweddaru'n aml felly mae yna bob amser rywbeth ffres a gwahanol i roi cynnig arno.
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Pen Y Gwryd Hotel
Tafarn / gwesty mynydda hanesyddol yn agos iawn i'r Wyddfa mewn ardal hardd. Ceir nifer o ystafelloedd gyda phaneli coed clyd â llawer o gofebion mynydda yn ogystal â sawl llofnod enwog yn cwmpasu'r nenfwd. Gwerthir cwrw ‘Mŵs Piws’.
The Cliffs
Wedi ei lleoli mewn lleoliad dramatig sy'n edrych dros y traeth ym Morfa Nefyn, mae'r Cliffs yn gweini bwyd tafarn traddodiadol.