Llefydd i fwyta
Bryn Noddfa
Mae'r bwyty ym Mryn Noddfa yn gweini bwyd cartref lleol, gyda'r fwydlen yn cael ei chadw'n fwriadol fyr ac yn cael ei ddiweddaru'n aml felly mae yna bob amser rywbeth ffres a gwahanol i roi cynnig arno.
Tŷ Te Cadair
Caffi ar ddechrau Llwybr Minffordd i Gader Idris, yn gwein cacennau traddodiadol cartref, cawl blasus, brechdannau ffres, baguettes a chinio poeth. Cynhwysion o ffynonellau lleol, lle bo modd
Talyllyn, Gwynedd, LL36 9AJ
Caffi’r Tyddyn
Caffi wedi'i leoli o fewn Canolfan Arddio Tyddyn Sachau, yn cynnig bwydlen fforddiadwy, iachus yn seiliedig ar fwyd cartref a chynnyrch ffres, lleol. Ceir golygfeydd godidog o Eryri, Moel Hebog a'r morlin mor bell â Phorthmadog a'r Bermo.
Y Glyntwrog
Tafarn lleol, cyfeillgar mewn pentref yng nghanol y wlad, yn cynnig amrywiaeth eang o gwrw, gwin, coctêls a diodydd ysgafn. Yn gweini bwyd cartref o sylwedd, yn defnyddio cynnyrch lleol, ffres.
Llanrug, Gwynedd, LL55 4AN