Llefydd i fwyta
Caffi Gerlan
Mae'r caffi drws nesaf i Waith Llechi Inigo Jones, ac mae'n cael ei redeg gan y ffarmwr a'r cigydd lleol Dafydd Jones, sydd hefyd wedi agor siop cigydd a chynnyrch ffarm drws nesaf i'r caffi.
Inigo Jones, Groeslon, Gwynedd, LL54 7UE
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Snowdonia Parc
Mae hon yn dafarn boblogaidd i deuluoedd, cerddwyr a dringwyr, gyda bwyd cartref da, cwrw go iawn, a'i ficro-fragdy ei hun.
The Oakeley Arms
Mae balchder yn yr ardal leol a chred y gellir dod o hyd i beth o gynnyrch bwyd gorau Cymru yn lleol ym mwydlen yr Oakeley Arms gan eu bod bob amser yn ymdrechu i gynnig bwyd traddodiadol Cymreig wedi'i baratoi gyda chynnyrch lleol a thymhorol lle