Llefydd i fwyta
Bryn Noddfa
Mae'r bwyty ym Mryn Noddfa yn gweini bwyd cartref lleol, gyda'r fwydlen yn cael ei chadw'n fwriadol fyr ac yn cael ei ddiweddaru'n aml felly mae yna bob amser rywbeth ffres a gwahanol i roi cynnig arno.
Caffi Hen Crydd
Caffi traddodiadol yn cynnig bwyd cartref, coffi a the yn Nyffryn Ardudwy.
Y Brif Heol, Dyffryn Ardudwy, Gwynedd, LL44 2EF
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Y Glyntwrog
Tafarn lleol, cyfeillgar mewn pentref yng nghanol y wlad, yn cynnig amrywiaeth eang o gwrw, gwin, coctêls a diodydd ysgafn. Yn gweini bwyd cartref o sylwedd, yn defnyddio cynnyrch lleol, ffres.
Llanrug, Gwynedd, LL55 4AN