Llefydd i fwyta
Caffi Hen Crydd
Caffi traddodiadol yn cynnig bwyd cartref, coffi a the yn Nyffryn Ardudwy.
Y Brif Heol, Dyffryn Ardudwy, Gwynedd, LL44 2EF
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Pen Y Gwryd Hotel
Tafarn / gwesty mynydda hanesyddol yn agos iawn i'r Wyddfa mewn ardal hardd. Ceir nifer o ystafelloedd gyda phaneli coed clyd â llawer o gofebion mynydda yn ogystal â sawl llofnod enwog yn cwmpasu'r nenfwd. Gwerthir cwrw ‘Mŵs Piws’.
Ysgethin Inn
Mwynhewch y cyfle i fwyta wrth edrych dros afon Ysgethin yn yr Ysgethin Inn sydd, dros y blynyddoedd, wedi ennill enw da am gwrw coeth a bwyd rhagorol.
Ffordd Ysgethin, Talybont, Abermaw, Gwynedd, LL43 2AN