Llefydd i fwyta
Caffi’r Tyddyn
Caffi wedi'i leoli o fewn Canolfan Arddio Tyddyn Sachau, yn cynnig bwydlen fforddiadwy, iachus yn seiliedig ar fwyd cartref a chynnyrch ffres, lleol. Ceir golygfeydd godidog o Eryri, Moel Hebog a'r morlin mor bell â Phorthmadog a'r Bermo.
Caffi Corris
Mae bwydlen trwy'r dydd Caffi Corris yn gyfuniad croesawgar o'r cynhwysion Cymreig gorau, ryseitiau lleol a seigiau blasus.
Y Glyntwrog
Tafarn lleol, cyfeillgar mewn pentref yng nghanol y wlad, yn cynnig amrywiaeth eang o gwrw, gwin, coctêls a diodydd ysgafn. Yn gweini bwyd cartref o sylwedd, yn defnyddio cynnyrch lleol, ffres.
Llanrug, Gwynedd, LL55 4AN
Victoria Inn
Mae Tafarn y Victoria yn dafarn bentref draddodiadol ar lan yr Afon Artro, ac mae wedi sefydlu enw am fwyd da, awyrgylch cyfeillgar, llety chwaethus, clyd a chwrw Robinson cain.