Llefydd i fwyta
George III Hotel
Mae Gwesty George III wedi'i leoli ar lannau aber ysblennydd yr Afon Mawddach ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'n enwog yn yr ardal am ei fwyd, diod, llety rhagorol a'i leoliad syfrdanol.
Y Madryn
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.
Penmaenuchaf Hotel
Pan fyddwch yn ymweld â'r bwyty yng Ngwesty Penmaenuchaf Hall, byddwch wrth eich bodd gyda'r bwyd gwych a baratowyd gan y cogyddion talentog sydd wedi ennill gwobrau.
Tafarn yr Eagles
Mae'r Eagles yn adeilad cerrig traddodiadol ac yn ôl pob sôn yn hen dŷ fferm sydd cyn hyned ag eglwys y plwyf. Mae'r Eagles yn dŷ tafarn cyfforddus sydd gyda digon o le i chi ymlacio.