Llefydd i fwyta
Brigands Inn
Y weledigaeth yn Brigands Inn yw gwneud eich ymweliad yno yn brofiad y byddwch am ei ailadrodd dro ar ôl tro.
Caffi Gerlan
Mae'r caffi drws nesaf i Waith Llechi Inigo Jones, ac mae'n cael ei redeg gan y ffarmwr a'r cigydd lleol Dafydd Jones, sydd hefyd wedi agor siop cigydd a chynnyrch ffarm drws nesaf i'r caffi.
Inigo Jones, Groeslon, Gwynedd, LL54 7UE
Y Madryn
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.
Ysgethin Inn
Mwynhewch y cyfle i fwyta wrth edrych dros afon Ysgethin yn yr Ysgethin Inn sydd, dros y blynyddoedd, wedi ennill enw da am gwrw coeth a bwyd rhagorol.
Ffordd Ysgethin, Talybont, Abermaw, Gwynedd, LL43 2AN