Llefydd i fwyta
Caffi Gerlan
Symud o'r Arweinlyfr
Adio i'r Arweinlyfr
Mae'r caffi drws nesaf i Waith Llechi Inigo Jones, ac mae'n cael ei redeg gan y ffarmwr a'r cigydd lleol Dafydd Jones, sydd hefyd wedi agor siop cigydd a chynnyrch ffarm drws nesaf i'r caffi.
Inigo Jones, Groeslon, Gwynedd, LL54 7UE
Y Madryn
Symud o'r Arweinlyfr
Adio i'r Arweinlyfr
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.