Llefydd i fwyta
Braf Dinas Dinlle
Shac lan môr, caffi a stiwdio yn gwerthu coffi Poblado, hufen iâ Glasu, brownies Braf a mwy.
Dinas Dinlle, Gwynedd, LL54 5TW
Caffi Meinir
Wedi ei leoli yn Nant Gwrtheyrn, hen bentref chwarelyddol sydd bellach yn gartref y Ganolfan Iaith Genedlaethol, mae Caffi Meinir, sydd hefyd yn fwyty trwyddedig, yn gweini amrywiaeth o brydau cartref, byrbrydau a lluniaeth.
Caffi Lakeside
Yn swatio rhwng llyn a rhaeadr wrth droed mynyddoedd y Moelwyn, yng nghanol Eryri, mae Caffi Lakeside yn ganolbwynt (ac mewn tywydd gwael, lloches) i gerddwyr, dringwyr, ogofawyr a beicwyr.
Ffestiniog Power Station, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3TP
Y Madryn
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.
The Surfer Chippy
Siop sglodion teuluol ar y traeth yn Ninas Dinlle.