Llefydd i fwyta
Bryn Hir Arms
Tafarn gyfeillgar sydd yn gweini bwyd, gyda seddi awyr agored ar gael.
Caffi Meinir
Wedi ei leoli yn Nant Gwrtheyrn, hen bentref chwarelyddol sydd bellach yn gartref y Ganolfan Iaith Genedlaethol, mae Caffi Meinir, sydd hefyd yn fwyty trwyddedig, yn gweini amrywiaeth o brydau cartref, byrbrydau a lluniaeth.
Caffi’r Tyddyn
Caffi wedi'i leoli o fewn Canolfan Arddio Tyddyn Sachau, yn cynnig bwydlen fforddiadwy, iachus yn seiliedig ar fwyd cartref a chynnyrch ffres, lleol. Ceir golygfeydd godidog o Eryri, Moel Hebog a'r morlin mor bell â Phorthmadog a'r Bermo.
Y Madryn
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.