Llefydd i fwyta
Bombay Joes
Bwyty Indiaidd yn Nefyn.
1 Pen Y Bryn, Ffordd Dewi Sant, Nefyn, Gwynedd, LL53 6DU
Caffi Canolfan Arddio Bryncir
Mae'r caffi yng Nghanolfan Arddio Bryncir yn gweini prydau poeth ac oer gyda te a choffi adfywiol, heb anghofio'r cacen a'r hufen iâ blasus!
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Pen Y Gwryd Hotel
Tafarn / gwesty mynydda hanesyddol yn agos iawn i'r Wyddfa mewn ardal hardd. Ceir nifer o ystafelloedd gyda phaneli coed clyd â llawer o gofebion mynydda yn ogystal â sawl llofnod enwog yn cwmpasu'r nenfwd. Gwerthir cwrw ‘Mŵs Piws’.
Tafarn yr Afr
Wedi'i leoli ar yr A487 rhwng Porthmadog a Chaernarfon, mae bwyty Tafarn yr Afr yn cynnig bwydlen helaeth gyda'r nos yn ogystal â chinio Sul.