Llefydd i fwyta
Bwyty Blondin
Mae Bwyty Blondin wedi'i leoli yn Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda. Mae'n lleoliad modern, ar ffurf bistro, yn cynnig cynnyrch lleol.
Caffi Gerlan
Mae'r caffi drws nesaf i Waith Llechi Inigo Jones, ac mae'n cael ei redeg gan y ffarmwr a'r cigydd lleol Dafydd Jones, sydd hefyd wedi agor siop cigydd a chynnyrch ffarm drws nesaf i'r caffi.
Inigo Jones, Groeslon, Gwynedd, LL54 7UE
Caffi Seren
Gwerthir brecwast, cinio, panini's a brechdanau wedi eu tostio.
Y Madryn
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.
Twnti Seafood Restaurant
Wedi'i osod mewn ysgubor wedi'i addasu, mae gan y bwyty enwog hwn enw da am fwyd môr ardderchog.