Llefydd i fwyta
Y Bistro yn yr Hebog
Caffi a Bistro, wedi'i leoli ym Meddgelert, yn gweini cinio, prydau bar a chacennau cartref.
Caffi Gerlan
Mae'r caffi drws nesaf i Waith Llechi Inigo Jones, ac mae'n cael ei redeg gan y ffarmwr a'r cigydd lleol Dafydd Jones, sydd hefyd wedi agor siop cigydd a chynnyrch ffarm drws nesaf i'r caffi.
Inigo Jones, Groeslon, Gwynedd, LL54 7UE
Glaslyn
Mae Glaslyn yn gynhyrchwyr crefftus hufen iâ a sorbed arobryn, gan greu popeth mewn sypiau bach, wedi'u gwneud â llaw, yn eu parlwr. Mae'r caffi ar agor eto, ond rŵan fel pizzeria arbenigol.
Prince Llewelyn Hotel
Mae gwesty'r Prince Llewelyn yn dafarn, bar a bwyty clyd, croesawgar i deuluoedd a chŵn, sy'n gweini brecwast, bwydlen ginio blasus gan gynnwys rhai prif gyrsiau swmpus, byrgyrs, tatws pôb, baguettes a phrydau plant, yn ogystal â bwydlen gyda'r no
Tanronnen Inn
Lleolir y gwesty yng nghanol y pentref, sydd ym mhen pellaf bwlch godidog Aberglaslyn yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Tanronnen wedi hen ennill enw da am ei safon uchel o fwyd a'r awyrgylch cartrefol a chlyd.