Llefydd i fwyta
Aberdyfi Ice Cream
Parlwr hufen iâ ar lan y môr yn Aberdyfi, yn cynnig dewis o dros 24 o flasau hufen iâ cartref, 10 sorbetau, a sawl iogwrt wedi'i rewi.
Britannia Inn
Tafarn o ddyddiau'r goetsh fawr yn yr 17eg Ganrif, yn gweini bwyd gwych wedi'i goginio gartref. Mae golygfeydd godidog o'r aber o'r bwyty eang ar y llawr cyntaf yn y Britannia Inn.
Bwyty Blondin
Mae Bwyty Blondin wedi'i leoli yn Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda. Mae'n lleoliad modern, ar ffurf bistro, yn cynnig cynnyrch lleol.
Caffi Canolfan Arddio Bryncir
Mae'r caffi yng Nghanolfan Arddio Bryncir yn gweini prydau poeth ac oer gyda te a choffi adfywiol, heb anghofio'r cacen a'r hufen iâ blasus!
Caffi Seren
Gwerthir brecwast, cinio, panini's a brechdanau wedi eu tostio.
Coast Deli and Dining
Mae Coast Deli and Dining yn cynnig y gorau o fwyd a diod o Gymru, wedi'i gynhyrchu'n lleol a'i baratoi'n syml, gydag angerdd.