Llefydd i fwyta
Becws Islyn
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Caffi'r Mynydd
Caffi cartrefol mewn lleoliad godidog ym mhen draw Llŷn. Cewch frecwast, prydau ysgafn, te prynhawn gyda chacennau cartref, hufen iâ a lluniaeth ysgafn am bris rhesymol.
Gwesty Tŷ Newydd
Gwesty a thafarn pedair seren ar lannau Bae Aberdaron. Golygfeydd gwych a chroeso cynnes drwy gydol y flwyddyn.
Pen Y Gwryd Hotel
Tafarn / gwesty mynydda hanesyddol yn agos iawn i'r Wyddfa mewn ardal hardd. Ceir nifer o ystafelloedd gyda phaneli coed clyd â llawer o gofebion mynydda yn ogystal â sawl llofnod enwog yn cwmpasu'r nenfwd. Gwerthir cwrw ‘Mŵs Piws’.