Llefydd i fwyta
Cemlyn Tea Shop
Siop de yng nghanol Harlech, yn edrych dros y Castell a gyda golygfeydd o'r mynyddoedd, y môr a Chwrs Golff Dewi Sant. Mae'r holl fwyd sy'n cael ei weini wedi'i baratoi'n ffres yma, maent hyd yn oed yn pobi y bara eu hunain.
Stryd Fawr, Harlech, Gwynedd, LL46 2YA
Gwin Dylanwad Wine
Caffi / bar / siop win yng nghanol Dolgellau. Lle y gallwch ddod am baned a chacen, glasiad o win, prydau ysgafn neu brynu potel o win o’r seler. Maent yn mewnforio gwinoedd o bob cwr o Ewrop, gan ychwanegu gwinoedd o bob rhan o'r byd.
Siop Goffi Goodies
Siop goffi sy'n cael ei rhedeg gan ddwy chwaer lleol, yn gwneud cacennau cartref hyfryd, wedi ei leoli yn Abermaw, ar y brif stryd.
33 Stryd Fawr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1DW
The Plas Harlech
Bwyty, bar a gril ar Stryd Fawr Harlech, yn gweini cinio, byrbrydau, te prynhawn a chinio nos. Mae'r ardal eistedd awyr agored yn cynnig golygfeydd ysblennydd o Gastell Harlech a Phenrhyn Llŷn.
Stryd Fawr, Harlech, Gwynedd, LL46 2YA