Llefydd i fwyta
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Te a Cofi
Mae Te a Cofi yn gaffi sydd ar agor i’r cyhoedd ac ar yr un pryd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y maes arlwyo.
Scoops
Mae Scoops, sydd yng nghanol Caernarfon, yn barlwr hufen iâ a thŷ crempogau Iseldirol teuluol.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.
Tŷ Winsh
Caffi annibynnol yn gweini cynnyrch lleol ffres - brecwast, ciniawau a the prynhawn - a choffi blasus iawn! Darperir gwasanaeth tecawê a bwffe ar gyfer pob achlysur hefyd.