Llefydd i fwyta
Bistro Bermo
Busnes bach teuluol, yn cynnig bwyd a gwin rhagorol, gyda gwasanaeth cyfeillgar ac astud.
Britannia Inn
Tafarn o ddyddiau'r goetsh fawr yn yr 17eg Ganrif, yn gweini bwyd gwych wedi'i goginio gartref. Mae golygfeydd godidog o'r aber o'r bwyty eang ar y llawr cyntaf yn y Britannia Inn.
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.
Castle Bistro
Mae Castle Bistro yn cynnig bwyd cyfoes modern gyda thema Cymreig mewn lleoliad cyfforddus a chroesawgar.
Coast Deli and Dining
Mae Coast Deli and Dining yn cynnig y gorau o fwyd a diod o Gymru, wedi'i gynhyrchu'n lleol a'i baratoi'n syml, gydag angerdd.
Dovey Inn
Mae'r Dovey Inn yn gweini griliau gwych a chlasuron tafarn, ac mae yng nghanol y pentref. Mae'r fwydlen hefyd yn cynnwys ystod eang o blatiau i'w rhannu a phrydau blasus i ddechrau, ynghyd â dewis da o bwdinau i'ch temtio.