Llefydd i fwyta
Becws Islyn
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Caffi Largo
Caffi newydd wedi ei leoli ger traeth Pwllheli sydd yn gweini bwyd cartref safonol yn defnyddio cynnyrch lleol. Pitsas, ac wrth gwrs...hufen iâ.
Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AB
Caffi Meinir
Wedi ei leoli yn Nant Gwrtheyrn, hen bentref chwarelyddol sydd bellach yn gartref y Ganolfan Iaith Genedlaethol, mae Caffi Meinir, sydd hefyd yn fwyty trwyddedig, yn gweini amrywiaeth o brydau cartref, byrbrydau a lluniaeth.
Caffi’r Tyddyn
Caffi wedi'i leoli o fewn Canolfan Arddio Tyddyn Sachau, yn cynnig bwydlen fforddiadwy, iachus yn seiliedig ar fwyd cartref a chynnyrch ffres, lleol. Ceir golygfeydd godidog o Eryri, Moel Hebog a'r morlin mor bell â Phorthmadog a'r Bermo.
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.