Llefydd i fwyta
Aberdunant Hall
Mae bwyty Aberdunant Hall yn gweini prydau clasurol gyda rhywbeth i'r teulu cyfan, gan gynnwys prydau heb glwten, llysieuol a fegan.
Garden Cantonese Restaurant
Mae'r Garden Hotel & Cantonese Restaurant wedi'i leoli ar y Stryd Fawr, yn agos at orsaf reilffordd Bangor, ac yn gweini bwyd blasus wedi'i baratoi'n ffres a gwinoedd o safon mewn awyrgylch croesawgar cynnes.
Glaslyn
Mae Glaslyn yn gynhyrchwyr crefftus hufen iâ a sorbed arobryn, gan greu popeth mewn sypiau bach, wedi'u gwneud â llaw, yn eu parlwr. Mae'r caffi ar agor eto, ond rŵan fel pizzeria arbenigol.
De Niros
Mae DeNiros yn gaffi teulu cyfeillgar sy'n darparu ar gyfer pob chwaeth. Mae yma fwydlen amrywiol o frecwast i 'hot-pot' cig oen cartref, tsili i lasagne, pysgod a sglodion a brechdanau. Mae yna sawl opsiwn fegan a llysieuol ar gael.
Stones Bistro
Wedi'i leoli mewn adeilad hanesyddol y tu mewn i wal y dref yn yr hyn a oedd yn dŷ dirwestol o'r 17eg ganrif, mae Stones Bistro yn fwyty trwyddedig sy'n gweini bwyd gyda naws Eidaleg.