Llefydd i fwyta
Britannia Inn
Tafarn o ddyddiau'r goetsh fawr yn yr 17eg Ganrif, yn gweini bwyd gwych wedi'i goginio gartref. Mae golygfeydd godidog o'r aber o'r bwyty eang ar y llawr cyntaf yn y Britannia Inn.
Dovey Inn
Mae'r Dovey Inn yn gweini griliau gwych a chlasuron tafarn, ac mae yng nghanol y pentref. Mae'r fwydlen hefyd yn cynnwys ystod eang o blatiau i'w rhannu a phrydau blasus i ddechrau, ynghyd â dewis da o bwdinau i'ch temtio.
Penhelig Arms Hotel
Bwyd o safon, wedi'i baratoi gydag angerdd a balchder, wedi'i weini mewn awyrgylch hamddenol, cyfeillgar ac anffurfiol, gan fanteisio'n llawn ar y lleoliad ysblennydd ar lan y dŵr.
Seabreeze Restaurant
Mwynhewch ddetholiad tymhorol o fwyd a diod o Gymru mewn awyrgylch hamddenol yn y bwyty hwn sy'n cynnig gwledd o gynnyrch lleol. Mae eu bwydlenni'n cael eu newid yn dymhorol i adlewyrchu'r hyn sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn.
Trefeddian Hotel
Mae golygfeydd ysgubol Gwesty'r Trefeddian dros Ceredigion yn lleoliad delfrydol i fwynhau'r bwyd arbennig sydd ar gael yno, yn enwedig ar ddiwrnod heulog ar y teras a'i olygfa syfrdanol o'r môr.