Llefydd i fwyta
Coast Deli and Dining
Mae Coast Deli and Dining yn cynnig y gorau o fwyd a diod o Gymru, wedi'i gynhyrchu'n lleol a'i baratoi'n syml, gydag angerdd.
Crust Pizzeria
Bwyty a tecawê wedi'i drwyddedu'n llawn yn Abersoch yn gweini pizza ffres gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau yn unig.
Y Cyfnod
Y Cyfnod yw'r caffi hynaf yn y Bala. Wedi'i osod ar Stryd Fawr y dref hanesyddol fach hon, mae gan y bwyty awyrgylch cynnes i chi ei fwynhau ym mhob tywydd ac ar bob adeg o'r dydd.
Dylan's Restaurant
Bwyty anffurfiol, croesawgar i deuluoedd, yn gweini pizza, bwyd môr ac ychydig o seigiau eraill. Cyrchu cynhwysion yn lleol lle bo hynny'n bosibl a gwneud y gorau o'r fwydlen yn yr adeilad yn ddyddiol.
Garden Cantonese Restaurant
Mae'r Garden Hotel & Cantonese Restaurant wedi'i leoli ar y Stryd Fawr, yn agos at orsaf reilffordd Bangor, ac yn gweini bwyd blasus wedi'i baratoi'n ffres a gwinoedd o safon mewn awyrgylch croesawgar cynnes.
Glaslyn
Mae Glaslyn yn gynhyrchwyr crefftus hufen iâ a sorbed arobryn, gan greu popeth mewn sypiau bach, wedi'u gwneud â llaw, yn eu parlwr. Mae'r caffi ar agor eto, ond rŵan fel pizzeria arbenigol.