Llefydd i fwyta
Seabreeze Restaurant
Mwynhewch ddetholiad tymhorol o fwyd a diod o Gymru mewn awyrgylch hamddenol yn y bwyty hwn sy'n cynnig gwledd o gynnyrch lleol. Mae eu bwydlenni'n cael eu newid yn dymhorol i adlewyrchu'r hyn sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn.
Y Sgwâr
Wedi'i leoli yn sgwâr marchnad hyfryd Tremadog, gyda golygfa o'r cefndir mynyddig hardd, mae Y Sgwâr wedi datblygu enw da am fwyd rhagorol, gwasanaeth cyfeillgar, sylwgar a chroesawgar ac awyrgylch bwyta perffaith.
Sheeps And Leeks
Mae Sheeps and Leeks, yng Nghaernarfon, yn fwyty diymhongar gyda lle i 20 eistedd, gan ddarparu profiad bwyta bythgofiadwy i westeion, sy'n cynnwys bwydlenni blasu cytbwys a wasanaethir mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol.
Spice of Llanberis
Prisau cystadleuol, bwyd wedi'i gyflwyno'n dda gyda staff dymunol.
Tanronnen Inn
Lleolir y gwesty yng nghanol y pentref, sydd ym mhen pellaf bwlch godidog Aberglaslyn yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Tanronnen wedi hen ennill enw da am ei safon uchel o fwyd a'r awyrgylch cartrefol a chlyd.