Llefydd i fwyta
Banc Porthmadog
Mae bwyty Banc yng nghanol Porthmadog, yn gweini bwyd blasus Môr y Canoldir, cinio Sul a tapas.
Y Bistro yn yr Hebog
Caffi a Bistro, wedi'i leoli ym Meddgelert, yn gweini cinio, prydau bar a chacennau cartref.
Bistro Bermo
Busnes bach teuluol, yn cynnig bwyd a gwin rhagorol, gyda gwasanaeth cyfeillgar ac astud.
Brigands Inn
Y weledigaeth yn Brigands Inn yw gwneud eich ymweliad yno yn brofiad y byddwch am ei ailadrodd dro ar ôl tro.
Britannia Inn
Tafarn o ddyddiau'r goetsh fawr yn yr 17eg Ganrif, yn gweini bwyd gwych wedi'i goginio gartref. Mae golygfeydd godidog o'r aber o'r bwyty eang ar y llawr cyntaf yn y Britannia Inn.
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.