Llefydd i fwyta
Bala Spice
Bwyty Indiaidd ar Y Stryd Fawr yn y Bala, yn gweini bwyd blasus Indiaidd go iawn.
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
Lemon Grass
Bwyty Indiaidd yng nghanol Dolgellau ydi'r Lemon Grass, sydd hefyd yn darparu gwasanaeth bwyd i fynd.
Cambrian House, Porth Canol, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1RE
Nomi Pwllheli
Mae Nomi, ym Mhwllheli, yn cynnig bwyd Indiaidd modern, gan gyfuno blasau traddodiadol â thro unigryw, cyfoes. Mae eu prydau wedi'u paru ag ystod unigryw ond fforddiadwy o winoedd.
Red Chillies
Bwyd blasus Bangladeshaidd ar gael yng nghanol calon Eryri. Cyri blasus a Chobra oer, adfywiol, gydag ychydig o bopadoms, be' well? Awyrgylch gartrefol cynnes wedi ei lenwi gyda staff cyfeillgar proffesiynol.