Llefydd i fwyta
Cadwaladers Porthmadog
Mae hufen iâ Cadwaladers wedi dod yn rhan fawr o'r diwylliant yn lleol ac mae eu henw da wedi lledaenu ymhell ac agos. Mae hufen iâ fanila enwog Cadwaladers ar gael bob amser yn ogystal â dewis eang o flasau hufen iâ eraill.
Promenade Café
Caffi traddodiadol ar lan y môr yn Abermaw.
Promenâd Abermaw, Abermaw, Gwynedd, LL42 1BX
Scoops
Mae Scoops, sydd yng nghanol Caernarfon, yn barlwr hufen iâ a thŷ crempogau Iseldirol teuluol.
Tafarn Pencei
Bar caffi ger harbwr Porthmadog, sy'n gweini'r holl ffefrynnau arferol gan gynnwys pysgod a sglodion, stêc a sglodion a byrgyrs a sglodion, ynghyd â phasta, brechdanau a saladau yn ogystal â dewis gwych o opsiynau fegan, llysieuol a heb glwten.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.