Llefydd i fwyta
Te a Cofi
Mae Te a Cofi yn gaffi sydd ar agor i’r cyhoedd ac ar yr un pryd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y maes arlwyo.
Gwesty'r Celt
Prydau cyfoes sy'n cael eu creu gan ddefnyddio cynhwysion ffres, Cymreig lle bynnag y bo modd - mae bwyta yng Ngwesty'r Celtic Royal bob amser yn brofiad hamddenol ond gwerth chweil.
Yr Hen Lys
Mae'r Hen Lys yn fwyty safonol a lleoliad cerddoriaeth fyw yng nghanol Caernarfon. Mae'n adeilad o bwysigrwydd pensaernïol rhagorol, gyda llawer o'r nodweddion gwreiddiol heb newid.
Sheeps And Leeks
Mae Sheeps and Leeks, yng Nghaernarfon, yn fwyty diymhongar gyda lle i 20 eistedd, gan ddarparu profiad bwyta bythgofiadwy i westeion, sy'n cynnwys bwydlenni blasu cytbwys a wasanaethir mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.