Llefydd i fwyta
Y Glyntwrog
Tafarn lleol, cyfeillgar mewn pentref yng nghanol y wlad, yn cynnig amrywiaeth eang o gwrw, gwin, coctêls a diodydd ysgafn. Yn gweini bwyd cartref o sylwedd, yn defnyddio cynnyrch lleol, ffres.
Llanrug, Gwynedd, LL55 4AN
Pen Y Gwryd Hotel
Tafarn / gwesty mynydda hanesyddol yn agos iawn i'r Wyddfa mewn ardal hardd. Ceir nifer o ystafelloedd gyda phaneli coed clyd â llawer o gofebion mynydda yn ogystal â sawl llofnod enwog yn cwmpasu'r nenfwd. Gwerthir cwrw ‘Mŵs Piws’.
The Captain's Table
Mae'r fwydlen glasurol fin nos yn The Captain's Table yn cynnig dewis da o brydau gyda cig, pysgod, prydau llysieuol a phasta. Mae yma hefyd fwydlen ar wahân ar gyfer plant.
Voltaire
Dewch i brofi bwyd iach a blasus o safbwynt fegan modern yn Voltaire, bwyty fegan sy'n cynnig platiau i'w rhannu a tapas yn ogystal â brecwast.
Ysgethin Inn
Mwynhewch y cyfle i fwyta wrth edrych dros afon Ysgethin yn yr Ysgethin Inn sydd, dros y blynyddoedd, wedi ennill enw da am gwrw coeth a bwyd rhagorol.
Ffordd Ysgethin, Talybont, Abermaw, Gwynedd, LL43 2AN