Llefydd i fwyta
Gwin Dylanwad Wine
Caffi / bar / siop win yng nghanol Dolgellau. Lle y gallwch ddod am baned a chacen, glasiad o win, prydau ysgafn neu brynu potel o win o’r seler. Maent yn mewnforio gwinoedd o bob cwr o Ewrop, gan ychwanegu gwinoedd o bob rhan o'r byd.
Penmaenuchaf Hotel
Pan fyddwch yn ymweld â'r bwyty yng Ngwesty Penmaenuchaf Hall, byddwch wrth eich bodd gyda'r bwyd gwych a baratowyd gan y cogyddion talentog sydd wedi ennill gwobrau.
Plas yn Dre
Mewn lleoliad cyfleus ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Plas yn Dre yn darparu bwyd rhagorol i'w fwynhau ac a gynhyrchir o gynhwysion lleol.
Sospan Fach
Bwyd cartrefol, da. Caiff yr holl gynnyrch cig ei gyflenwi gan T. J. Roberts, cigydd lleol. Ceir prydau wyau yn defnyddio wyau Cae Pant, te prynhawn cartref a chwrw Wrecsam ar dap. Croeso Cynnes!
97, Y Stryd Fawr, Bala, Gwynedd, LL23 7AE