Llefydd i fwyta
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Caffi Seren
Gwerthir brecwast, cinio, panini's a brechdanau wedi eu tostio.
Caffi'r Mynydd
Caffi cartrefol mewn lleoliad godidog ym mhen draw Llŷn. Cewch frecwast, prydau ysgafn, te prynhawn gyda chacennau cartref, hufen iâ a lluniaeth ysgafn am bris rhesymol.
Gwesty'r Plas Coch
Mae Plas Coch yn sefydliad hanesyddol yn Nhref Y Bala, Gogledd Cymry ac yn wreiddiol cafodd ei adeiladu fel tafarn yn 1780.
Y Gwynedd Bar & Diner
Mae'r Gwynedd Bar & Diner yn Llanberis yn ddim ond 5 munud o gerdded i Reilffordd yr Wyddfa ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o atyniadau lleol.