Llefydd i fwyta
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Gwin Dylanwad Wine
Caffi / bar / siop win yng nghanol Dolgellau. Lle y gallwch ddod am baned a chacen, glasiad o win, prydau ysgafn neu brynu potel o win o’r seler. Maent yn mewnforio gwinoedd o bob cwr o Ewrop, gan ychwanegu gwinoedd o bob rhan o'r byd.
Stones Bistro
Wedi'i leoli mewn adeilad hanesyddol y tu mewn i wal y dref yn yr hyn a oedd yn dŷ dirwestol o'r 17eg ganrif, mae Stones Bistro yn fwyty trwyddedig sy'n gweini bwyd gyda naws Eidaleg.
Wal Restaurant
Mae bwydlen eclectig Bwyty Wal yn cynnwys popeth o fyrgyrs i'ch bodloni amser cinio i stêcs ffiled o'r ansawdd gorau. Daw'r cig i gyd o Neuadd Llanfair, dim ond pedair milltir i fyny'r ffordd.