Llefydd i fwyta
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Y Madryn
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.
Plas yn Dre
Mewn lleoliad cyfleus ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Plas yn Dre yn darparu bwyd rhagorol i'w fwynhau ac a gynhyrchir o gynhwysion lleol.
Royal Sportsman Hotel
Gweinir prydau eithriadol am bris rhesymol, gan ddefnyddio dim ond y cynhwysion gorau, mwyaf ffres, a geir yn bennaf gan gyflenwyr lleol yng Nghymru, yn y Bwyty cain 60 sedd neu'r bar traddodiadol.