Llefydd i fwyta
Caffi Gwynant
Mae Caffi Gwynant yn lle delfrydol ar gyfer diod, byrbryd, brecwast neu bryd bwyd mwy sylweddol cyn neu ar ôl mynd am dro i gopa'r Wyddfa (Llwybr Watkin), neu os ydych chi dim ond yn teithio trwy Eryri.
Cegin Ceri
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Te a Cofi
Mae Te a Cofi yn gaffi sydd ar agor i’r cyhoedd ac ar yr un pryd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc yn y maes arlwyo.
Gwesty'r Celt
Prydau cyfoes sy'n cael eu creu gan ddefnyddio cynhwysion ffres, Cymreig lle bynnag y bo modd - mae bwyta yng Ngwesty'r Celtic Royal bob amser yn brofiad hamddenol ond gwerth chweil.
Gwesty'r Royal Victoria
Edrychwch ymlaen at brofiad bwyta gwych yng Ngwesty'r Royal Victoria yn Llanberis. Mae'r gwesty wedi'i leoli mewn 30 erw o erddi a choetir, gilfach rhwng llynnoedd Padarn a Pheris, ac yn edrych yn fach gyferbyn a’r Wyddfa.